Rydym wedi bod yn cydweithio gyda Phrifysgol De Cymru, gyda chefnogaeth Road Safety Desings a'n partneriaid o fewn Diogelwch Ffyrdd Cymru dros y misoedd diwethaf ar brosiect cyfforus ac arloesol. Daeth y misoedd o waith caled, paratoi a chynllunio i uchafbwynt gydol Wythnos Diogelwch Y Ffordd ar yr 22ain o Dachwedd yn awyrgylch ysblennydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Mae Wythnos Diogelwch Y Ffyrdd yn wythnos allweddol ar gyfer ymgysylltu ac ar gyfer codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae diogelwch ar y ffyrdd yn effeithio ar bob un ohonom bob dydd; boed yn gerddwyr, yn feicwyr, yn feicwyr modur, yn farchogion neu'n fodurwyr. Rydym i gyd yn defnyddio'r ffyrdd ac rydym i gyd yn gwneud penderfyniadau wrth ddefnyddio'r ffyrdd, penderfyniadau a all effeithio nid yn unig ar ein diogelwch ni ein hunain ond ar ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd erail o'n cwmpas.
Meddai Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:
"Eleni, roedd GanBwyll am ymgysylltu gyda gyrwyr ifanc, demograffeg sy'n ystadedgol yn wynebu risg uwch ar ein ffyrdd, yn ystod wythnos diogelwch ar y ffyrdd. Roeddem am ymgysylltu gyda gyrwyr ifanc mewn ffordd greadigol, addysgol ac arloesol a fyddai'n cynyddu eu gwybodaeth am ddiogelwch ar y ffydd ac yn eu hannog i ymgysylltu gyda diogelwch ar y ffyrdd ac i godi ymwybyddiaeth o fewn eu grwpiau cyfoed. Rydym i gyd wedi clywed am "Wythnos Ffasiwn" ac roeddm am gysylltu hynny gyda "Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd".
Mae ffasiwn yn rhywbeth arall sy'n effeithio ar bob un ohonom bob dydd, hyd yn oed os nad ydym yn meddwl amdano neu'n sylweddoli ei fod yn digwydd. Mae'r myfyrwyr ar y cyrsiau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn ymchwilio i ddiogelwch ar y ffyrdd ac wedi dylunio a chreu casgliad ffasiwn a ysbrydolwyd gan negeseuon, arwyddion ac ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd gyda'r nod o newid ymddygiad ac agweddau pobl ifanc tuag at diogelwch y ffyrdd ac mae'n anrhydedd i ni gydweithio gyda nhw ar yr ymgyrch yma.
Gallai'r penderfyniadau dyddiol a wnawn wrth ddefnyddio'r ffyrdd arbed bywydau. Giwsgo eich gwregys diogelwch, gyrru i amodau'r ffordd, gwisgo dillad addas, bod yn ymwybodol o'r awyrgyclh o'ch cwmpas, peidio defnyddio ffon symudol. Penderfyniadau bach, ond gall gwneud y dewis anghywir arwain at ganlyniadau difrifol."
Roedd y noson, wedi'i noddi gan Road Safety Design, a chyda cefnogaeth Brake, yr elusen diogewlch ar y ffyrdd sy'n cydlynu wythnos diogelwch ar y ffyrdd ledled y DU a pphartneriaid eraill, yn llwyddiant ysgubol. Roedd dyluniadau y dylunyr ifanc a gymerodd ran yn wallgof, yn ddiddorol ac yn cyfleu negeseuon pwysig diogelwch ar y ffyrdd drwy'r llwyfan gweledol o ffasiwn a dylunio.
Meddai Carol Gillanders, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Masnachol Road Safety Designs:
"Rydym yn falch iawn o fod wedi cydweithio mewn partneriaeth gyda GanBwyll ar y Sioe Ffasiwn Wythnos Diogelwch Y Ffordd cyntaf erioed. Gallwn oll wneud rhywbeth i wella diogelwch ar y ffyrdd, a dyna pam y gwnaethom sefydlu ein busnes a chynllunio'r triongl rhybudd BriteAngle i helpu i gadw modurwyr yn ddiogel a'u gweld ar ochr y ffordd. Pwy oedd yn gwybod y byddai hefyd yn dyblu fel y ategolyn perffaith ar gyfer llwyfan? Rydym wedi gweld dyluniadau anhygoel gan fyfyrwyr ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru ac rydym yn falch o fod wedi helpu i roi llwyfan iddynt i arddangos eu creadigaethau gwych-y cyfan wedi'u hysbrydoli gan ddiogelwch ar y ffyrdd. "
Rhoddodd y noson gyfle i bobl ifanc ymgysylltu â GoSafe a dysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd mewn ffordd hwyliog, greadigol ac ymhollyd. Drwy roi llwyfan iddynt fynegi eu syniadau am ddiogelwch ffyrdd drwy gyfrwng ffasiwn, fe'n helpodd yn ein gwaith o godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ymhlith gyrwyr ifanc. Mae dyfodol diogelwch ar y ffyrdd yn eu dwylo nhw.