Ers mis Tachwedd 2017, mae aelodau o'r cyhoedd wedi gallu cyflwyno cynnwys fideo a lluniau a gasglwyd ar ffonau symudol neu ar dashcams o yrru di-ofal a pheryglus y maent wedi'u gweld i'r Heddlu, drwy Ymgyrch Snap - proses symlach a sefydlwyd mewn ymateb i gynnydd yn y galw gan aelodau o'r cyhoedd er mwyn gallu cyflwyno tystiolaeth o’r math yma o droseddau moduro a thraffig ar ffyrdd Cymru.
Dros y tair blynedd diwethaf rydym wedi derbyn bron i 8,000 o gyflwyniadau o bob rhan o Gymru. Tystiolaeth gadarn o fodurwyr yn gyrru drwy oleuadau coch, yn ddefnyddio eu ffonau symudol, yn goddiweddyd ar draws llinellau gwyn solet ymhlith troseddau eraill.
Pan fydd aelod o'r cyhoedd yn cyflwyno darn o ffilm neu ddelwedd drwy ein ffurflen Ymgyrch Snap, mae'r ffilm ynghyd â'r datganiad yn cael ei dderbyn gan un o’n Gwneuthurwyr Penderfyniadau. Ymchwilir yn drylwyr i bob cyflwyniad unigol ac os gwelir bod trosedd wedi'i recordio, yna cymerir camau priodol i nodi'r troseddwr ac ymdrin â'r drosedd dan sylw.
Ymdrinnir â'r rhan fwyaf o'r troseddau a welwn drwy lythyrau rhybuddio neu hysbysiadau cosb benodedig. Fodd bynnag, mae angen gweithredu mwy difrifol ar rai o’r troseddau a dyma'r achosion sy'n cael eu trosglwyddo i'r llysoedd.
Heddiw, rydym yn lansio tudalen we newydd sbon ar wefan GanBwyll. Snapped! Bydd y dudalen we hon yn cynnal enghreifftiau o rai o'r clipiau troseddu gwaethaf a gawsom, gan fanylu ar ba drosedd neu droseddau sydd wedi digwydd a beth oedd y canlyniadau i'r troseddwr.
Ymhlith y tri chlip cyntaf sydd gennym, fe welwch:
- yrrwr peryglus yn goddiweddyd cerbyd ar draws llinell wen solet
- yrrwr di-ddiofal yn gyrru'r ffordd anghywir o amgylch cylchfan
- yrrwr yn gyrru drwy olau coch
Mae Daschams wedi dod yn fwy poblogaidd nag erioed, a gobeithiwn, drwy rannu'r clipiau hyn, y bydd mwy o bobl yn ailfeddwl cyn cymryd risg ddiofal a pheryglus ar y ffordd.
Os hoffech ddysgu mwy am Ymgyrch Snap, darllenwch ein Tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Neu, os ydych wedi cofnodi lluniau neu ddelweddau o drosedd a'ch bod am roi gwybod i ni, gallwch wneud hynny drwy lenwi'r ffurflen Ymgyrch Snap, sydd i'w gweld yma.