Sefydlwyd ein safle camera symudol ar Heol y Gogledd, Trecelyn, Caerffili ym mis Medi 2017, ar ffordd 30mya.
Dangosodd arolwg cyflymder a gynhaliwyd ar y pryd mai'r cyflymder cyfartalog ar y safle oedd 34.3mya gyda 15% o gerbydau'n teithio ar 39mya neu fwy gyda 4% o gerbydau'n teithio ar gyflymder dros 45mya. Roedd 77% o gerbydau a deithiwyd ar y ffordd yn teithio ar gyflymder yn uwch na'r cyfyngiad cyflymder.
Er na fu unrhyw anafiadau ar y safle, ystyriwyd bod y cyflymder gormodol ynghyd â nifer o beryglon ar y safle yn golygu bod angen i’r cyfyngiad cyflymder gael ei orfodi ar y ffordd yma.
Mae Heol y Gogledd yn ffordd brysur, gul sy'n cysylltu Trecelyn a Chrymlyn. Mae rhai allfeydd masnachol ar y ffordd ond mae'n ardal breswyl yn bennaf.
Dangosodd arolwg cyflymder a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2019 fod y cyflymder cyfartalog wedi gostwng i 30.2mya, bod 15% o gerbydau'n teithio ar 35mya neu fwy a dim ond 0.6% o gerbydau yn teithio ar gyflymder dros 45mya. Canfuwyd bod 50% o gerbydau yn teithio ar gyflymder uwch na'r cyfyngiad cyfreithiol.
Er bod y cyflymderau yn sicr wedi gostwn ers i ni gychwyn gorfodi, mae mae lle o hyd i welliant pellach a bydd gorfodaeth yn parhau hyd y gellir rhagweld.
Rydym bob amser yn gorfodi yn y lle cywir, ar yr amser cywir, am y rheswm cywir er mwyn gwneud ffyrdd Cymru'n fwy diogel i bawb.