Nod strategol GanBwyll yw lleihau nifer yr anafiadau a gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb. Fel rhan o'n strategaeth orfodi, rydym yn ymateb i bryderon cymunedol a gallwn ddefnyddio ein camerâu symudol mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys mewn ardaloedd lle mae gwaith ffordd yn digwydd.
Mae gwaith yn parhau ar y ffordd osgoi newydd ger Ystâd Ddiwydiannol brysur Cibyn ar y ffordd allan o Gaernarfon i Lanrug. Cyflwynwyd cyfyngiad cyflymder o 30mya ar hyd y ffordd le mae’r gwaith yn parhau fel mesur diogelwch i gadw'r rhai sy'n gweithio ar y safle yn ddiogel.
Ers i'r safle gael ei gyflwyno ar 27ain o Dachwedd 2020, mae ein Swyddogion Lleihau Anafiadau wedi ymweld â'r safle hwn 8 gwaith ac wedi cofnodi cyfanswm o 460 o droseddau goryrru, gyda chyfartaledd o 57.5 trosedd wedi'u cofnodi ar bob ymweliad.
Un o'r cyflymderau uchaf a gofnodwyd ar y safle hwn oedd 56mya, bron i ddwbl y cyfyngiad cyflymder! Roedd y modurwr hwn yn peryglu diogelwch eu hunain yn ogystal â defnyddwyr eraill y ffordd a’r gweithwyr ar y safle.
Goryrru yw un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at wrthdrawiadau ar ein ffyrdd, ffactor y gellir ei osgoi os ydym i gyd yn dewis cydymffurfio â'r cyfyngderau cyflymder. Mae cyflymderau uchel yn peryglu bywydau ac yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni ofalu am ein gilydd a chwarae ein rhan i leihau'r pwysau ar ein GIG.
Dywedodd Rhingyll Mel Brace, Cydlynydd GanBwyll Heddlu Gogledd Cymru:
"Mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r ffyrdd yn ddiogel ac yn hyderus. Mae'r cyfyngiad cyflymder dros dro yn Cibyn wedi'i roi ar waith er diogelwch y rhai sy'n gweithio ar y ffordd osgoi newydd. Goryrru yw un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at wrthdrawiadau ar ein ffyrdd, a thrwy sefyll lan dros arafu lawr a chydymffurfio â'r cyfyngder cyflymder byddwch yn chwarae eich rhan i gadw'r gweithwyr allweddol hyn yn ddiogel ar y ffordd."
Felly, os gwelwch fan GanBwyll yn y safle hwn, neu yn wir mewn unrhyw safle arall ledled Gogledd Cymru, rydym yn y lle cywir, ar yr amser cywir, am y rheswm cywir. Gofynnwn i bob defnyddiwr ffordd sefyll lan dros arafu lawr a helpu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.