Trwy gydol y cyfnodau clo gwelsom gynnydd yn nifer y bobl sy'n beicio wrth iddynt wneud eu hymarfer corff dyddiol neu fynd ar deithiau hanfodol. Mae beicio yn ffordd rad, ecogyfeillgar i fynd o gwmpas - ac mae'n eich cadw'n heini.
Mae beicwyr yn ddefnyddwyr ffyrdd bregus, ac mae ganddyn nhw'r un hawl â'r holl ddefnyddwyr ffyrdd eraill i deithio'n ddiogel ac hyderus ar ffyrdd Cymru.
Yn anffodus, bob blwyddyn mae dros 3,000 o feicwyr yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn y DU. Trwy gymryd rhagofalon synhwyrol fel cynllunio llwybrau i osgoi ffyrdd a chyffyrdd prysur byddwch yn helpu i leihau'r risgiau a gwneud eich taith yn fwy pleserus. (RoSPA)
Mae gan feicwyr eu hunain ran i'w chwarae. Dywedodd Gwenda Owen, Cycling UK:
“Peidiwch byth â chofleidio’r palmant! Gallwn sicrhau ein bod yn cael ein gweld gan eraill ar y ffordd trwy feicio lle y gellir ein gweld yn hawdd. Weithiau mae hyn yn golygu ‘cymryd y lôn’ a beicio yn y safle cynradd ac ar adegau eraill gallwn fod yn safle uwchradd - metr da i ffwrdd o’r palmant. Gall sicrhau, wrth inni reidio ein beiciau, ein bod yn cofrestru ym maes gweledigaeth gyrrwr helpu i atal y digwyddiadau ‘sori, nes i ddim eich gweld chi’ ”
Mae gan fodurwyr eu rhan eu hunain i'w chwarae wrth gadw beicwyr yn ddiogel ar y ffyrdd, ac un o'r risg fwyaf i ddiogelwch beicwyr yw pasys agos.
Gofynnwn i fodurwyr adael pellter diogel o oleiaf 1.5m rhwng eu cerbyd a beiciwr wrth iddynt basio. Rhowch y lle sydd ei angen ar feicwyr i fod yn ddiogel ar y ffyrdd a byddwch yn amyneddgar os nad yw cyflwr y ffyrdd yn caniatáu ichi basio yn ddiogel.
Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae ac rydym yn dibynnu ar ein gilydd i barchu hawl pob defnyddiwr ffordd i siwrnai ddiogel a hyderus. Chwaraewch eich rhan a dewch i ni ofalu am feicwyr wrth i ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni teithiau mwy diogel i bawb.