Mae gan Brosiect EDWARD darged uchelgeisiol o weld sero o farwolaethau ar ein ffyrdd. Yn 2020 gwelwyd 72 o farwolaethau ar ffyrdd Cymru; llai o farwolaethau nag a welsom yn 2019, ond mae gwaith i'w wneud o hyd ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb.
Mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r ffyrdd yn ddiogel ac yn hyderus ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau bod pob defnyddiwr ffordd yn gallu gwneud hynny. Byddwch yn amyneddgar wrth yrru tuag at farchog ar gefn ceffyl neu wrth i chi basio beiciwr. Cymerwch ychydig eiliadau ychwanegol i edrych eto cyn gadael cyffordd, gall beicwyr modur ymddangos ymhellach i ffwrdd nag y maent oherwydd eu maint. Disgwyliwch yr annisgwyl bob amser a byddwch yn ymwybodol o'ch amgylchedd.
Beicwyr, marchogion, beicwyr modur, cerddwyr - mae'r holl ddefnyddwyr ffyrdd hyn yn cael eu cyfri fel defnyddwyr bregus y ffordd. Yn wahanol i gar neu fan, nid oes gan y defnyddwyr ffyrdd hyn unrhyw beth o'u cwmpas i gynnig amddiffyniad rhag gwrthdrawiad neu ddamwain. Gallai hyd yn oed gwrthdrawiad bach arwain at anafiadau difrifol neu fygythiad i fywyd unrhyw un o'r defnyddwyr ffyrdd hyn.
Heddiw, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn canolbwyntio eu gorfodaeth a’u hymgysylltiad mewn safleoedd lle cofnodwyd anafiadau cerddwyr a beicwyr mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o’r defnyddwyr ffyrdd bregus hyn, a’r pwysigrwydd o ofalu am ein gilydd ar y ffyrdd.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:
“Trwy wneud y dewis diogel pan ar y ffordd, a thrwy wneud y pethau bach fel gwisgo gwregys diogelwch ar bob taith, peidio â defnyddio'ch ffôn symudol a thrwy gadw at y cyfyngiadau cyflymder cyfreithiol, gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth i'n diogelwch ein hunain yn ogystal ag i ddiogelwch defnyddwyr eraill y ffordd.
Mae GanBwyll yn gweithio’n ddiflino ac yn angerddol i leihau anafiadau ar ffyrdd Cymru, nid yn unig trwy orfodi’r cyfyngiadau cyflymder a deddfau traffig ffyrdd eraill; ond trwy eiriol dros ac addysgu pob defnyddiwr ffordd ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Ond, ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain, a gall pob defnyddiwr ffordd yng Nghymru chwarae ei ran. ”
Bydd sawl Gweithrediad arall yn rhedeg ledled Cymru heddiw, gan gynnwys:
- Gweithrediad Early Bird yn Ne Cymru, gyda'r nod o annog cydymffurfiad â'r cyfyngiadau cyflymder yn ystod yr oriau mân i gadw cymudwyr yn ddiogel ar y ffyrdd.
- Gweithrediad Options yn rhedeg allan o Orsaf Dân Aberbargoed yn Gwent
- Ymgyrch Ysgolion yn rhedeg yn y bore a'r prynhawn yn Dyfed-Powys
Gadewch i ni ofalu am ein gilydd ar y ffyrdd; a phryd bynnag a ble bynnag rydych chi'n gyrru, cofiwch:
- Gwyliwch eich cyflymder
- Disgwyliwch i ddod ar draws gwahanol ddefnyddwyr y ffordd
- Byddwch yn amyneddgar. Rhowch amser a lle i eraill
- Byddwch yn barod i eraill wneud camgymeriadau
- Canolbwyntiwch ar eich gyrru
- Peidiwch byth â gyrru a defnyddio ffôn symudol.