Gyda Cymru, ynghyd a gweddill y DU, nawr yn ein pedwerydd wythnos o dan cyfyngiadau teithio o ganlyniad i'r Pandemig Covid-19, mae ein ffordd o fyw wedi newid yn fawr iawn, Gyda nifer helaeth o'r boblogaeth bellach yn ynysu adref gyda'u teuluoedd, mae yna rhai swyddi lle mae teithio yn hanfodol.
Mae gyrrwyr dosbarthu, gwasanaethau brys, gweithwyr awdurdodau lleol a gweithwyr post i enwi ond ychydig o weithwyr lle mae'r gallu i yrru ar hyd ein rhwydwaith ffordd yn hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau anghenrheidiol a gweithwyr hanfodol yn gallu parhau i weithio er lles ein cymunedau.
Mae Driving For Better Business mewn cydweithrediad gyda FleetCheck wedi creu cyfres o fideos i help rheolwyr cerbydau a perchnogion busnesau i'w help gyda gweithio o dan yr amgylchiadau.
Gallwch ddod o hyd i'r deunyddiau a'r wybodaeth ar y wefan yma.