CADW FFYRDD CYMRU'N FWY DIOGEL
LANG: EN Cy
CADW FFYRDD CYMRU'N FWY DIOGEL

Lleoliadau Camerâu

Mae Camerâu Diogelwch yn cael eu defnyddio i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn helpu i achub bywydau, nid i wneud arian neu i ddal gyrwyr heb reswm

Mae camerâu yno i annog modurwyr i yrru o fewn y cyfyngiad cyflymder, felly'r camerâu mwyaf llwyddiannus yw'r rhai sy'n cofnodi'r nifer LLEIAF o dramgwyddau, nid y mwyaf.

 

Mae pob camera GanBwyll yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar leoliad camerâu. Mae sut a phryd y gosodir camerâu'n dibynnu ar hanes y damweiniau a'r broblem diogelwch ffyrdd ym mhob lleoliad.

 

Cofiwch y gall swyddogion yr heddlu ddefnyddio camerâu ar yr holl ffyrdd ac nid oes rhaid iddynt gydymffurfio â'r un canllawiau gwelededd.

 

Felly bob tro y byddwch yn gweld camera diogelwch, cofiwch ei fod yno i helpu i sicrhau eich bod chi a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn cael taith ddiogel, nid i ddal modurwyr na gwneud elw.

 

Gwerth cyfartalog atal achosion o anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiad a gofnodwyd ar ein ffyrdd ar gyfer 2019 yw £2.029m ar gyfer marwolaeth a £228k am bob anaf difrifol. 


Mae GanBwyll yn gorfodi yn y lle cywir, ar yr amser cywir, am y rheswm cywir i annog cydymffurfiaeth â'r cyfyngiad cyflymder ac i leihau'r risg o wrthdrawiadau, anafiadau a marwolaethau ar ffyrdd Cymru.


Mae'r data sy'n ymwneud â chostau i'w gweld yma.

Fframwaith Diogelwch Ffyrdd Ar Gyfer Cymru

Meini Prawf Safleoedd Gorfodi GanBwyll

 Rydym yn defnyddio camerâu yn y lleoedd canlynol yn unig:

Lle mae pobl wedi cael eu lladd neu eu hanafu

Am fwy o fanylion y meini prawf damweiniau ar gyfer gosod camerâu, gweler Canllawiau Llywodraeth Cymru.

Safle o bryder cymunedol.

Nid ydym yn credu mewn aros i bobl gael eu hanafu cyn cymryd camau gweithredu, felly mae camerâu teithiol hefyd ar waith mewn ardaloedd lle mae cymunedau wedi cwyno bod cyflymder yn peryglu bywydau a bod arolwg yn cadarnhau bod problem oryrru wirioneddol.

Gweithrediadau ag amcan diogelwch ffyrdd

Mae enghreifftiau'n cynnwys mentrau gwaith ffordd a diogelwch ffyrdd e.e. ymgyrch 20mya y tu allan i ysgolion