Talwch sylw i’r rheolau gyrru canlynol yn y DU:
Fel gyrrwr o wlad tramor, talwch sylw arbennig i’r canlynol:
- Rhaid i chi yrru ar yr ochr chwith. Byddwch yn arbennig o ofalus wrth droi i’r dde.
- Byddwch yn ymwybodol o’r cyfyngiadau cyflymder. Gall y rhain fod yn is mewn rhai llefydd – gwyliwch am yr arwyddion.
- Arwyddion ffordd Prydain – gallai fod peth dryswch rhwng arwyddion imperial a metrig (megis cyfyngiadau cyflymder neu uchder pontydd) – Rheolau Ildio (er enghraifft, mae’r rhain yn hollol wahanol yn Seland Newydd)
- Cyfreithiau tacograff (gall hyn olygu fod gyrwyr yn or-flinedig, wedi gyrru oriau hirach nag y dylent)
- Ar gylchdro, ildiwch i’r traffig sy’n dod o’r dde, oni bai bod marciau ffordd yn dweud fel arall. Gyrrwch o gwmpas yn glocwedd ac arwyddwch i’r chwith wrth i chi ddod at eich allanfa.
- Defnyddiwch y llain galed ar draffyrdd mewn argyfwng yn unig a rhowch eich goleuadau perygl ymlaen. Defnyddiwch ffôn argyfwng cyfagos i ffonio am help.
- Mae cyfreithiau yfed a gyrru’n wahanol ym mhob gwlad, felly byddwch yn ymwybodol ei bod hi’n well peidio ag yfed o gwbl yn y DU os ydych chi’n gyrru.
- Rhaid i chi a’ch teithwyr wisgo gwregysau diogelwch os oes rhai wedi eu gosod – yn y blaen ac yng nghefn y cerbyd. Dylai plant iau hefyd fod mewn seddau car wedi eu ffitio’n briodol.
- Peidiwch â defnyddio eich ffôn symudol wrth yrru. Mae hyn yn anghyfreithlon yn y DU.
- Os byddwch yn cael damwain, byddwch yn ymwybodol fod rhaid i chi stopio a roi eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion yswiriant i’r gyrrwr/gyrwyr eraill yn y ddamwain. Rhaid i chi hefyd roi gwybod i’r heddlu os oes unrhyw un wedi’i anafu.
Defnyddiwch y teclyn canlynol i weld a ydych chi’n cael gyrru yn y DU gyda’ch trwydded yrru nad yw’n un Prydain Fawr. Prydain Fawr yw Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.