Defnyddwyr eraill y ffordd
Byddwch yn ymwybodol:
Wrth gario teithwyr
- Gwnewch yn siŵr fod pawb wedi cau eu gwregys cyn cychwyn y cerbyd.
- Dywedwch wrthynt am dawelu os ydynt yn swnllyd ac yn tynnu eich sylw.
- Ffocyswch ar gyrraedd mewn un darn, yn hytrach na cheisio gwneud argraff drwy gornelu ar gyflymder uchel, goddiweddyd ac ati.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn ffocysu ac yn effro ar gyfer y daith.
- Cadwch o fewn y cyfyngiadau cyflymder.
- Peidiwch â gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
- Gwiriwch fod pob teithiwr yn gwisgo gwregys.
Beicwyr
- Gwyliwch am feicwyr, yn enwedig wrth droi – gwnewch gyswllt llygaid os yn bosibl i ddangos eich bod wedi eu gweld.
- Defnyddiwch eich cyfeirwyr – rhowch signal er mwyn i feicwyr allu arafu.
- Rhowch le i feicwyr – os nad oes digon o le i basio, arhoswch yn ôl.
- Cofiwch wirio am feicwyr wrth i chi agor drws y car.
- Peidiwch â gyrru dros linellau stopio blaen – mae’r rhain yn caniatáu i feicwyr fynd ar y blaen a chynyddu pa mor weladwy ydynt.
Cerbydau araf
- Byddwch yn ymwybodol o gerbydau araf ar y ffyrdd wrth i chi yrru.