Mae traffyrdd clyfar yn defnyddio technoleg er mwyn eich galluogi i barhau i symud ar adegau prysur. Byddwch yn gweld cyfyngiadau cyflymder mewn cylchau coch solet uwchben ac ar hyd ymyl y ffordd.
Pan fydd traffig yn cynyddu, bydd synwyryddion monitro'n gweithredu cyfyngiadau cyflymder is. Mae hyn yn lleihau tagfeydd ac yn helpu i atal traffig rhag symud yn ysbeidiol er mwyn i chi gyrraedd eich cyrchfan ar amser.
Os bydd rhywun yn torri i lawr, caiff y lôn ei chau (wedi'i nodi gan 'x' coch uwchben y lôn honno). Bydd y cyfyngiad cyflymder yn newid er mwyn arafu traffig wrth i'r digwyddiad gael ei reoli. Mae hyn yn fwy diogel i yrwyr, swyddogion traffig a'r gwasanaethau brys.
Peidiwch a chael eich dal!
Gan y gall y cyfyngiadau cyflymder ar draffyrdd clyfar newid, nid yw rhai gyrwyr yn sylweddoli bod y cyfyngiadau cyflymder hynny'n dal i fod yn gyfreithiol – felly, peidiwch â chael eich dal!
Yr haf hwn byddwn yn atgoffa gyrwyr o bum pwynt i'w cofio am gyfyngiadau cyflymder ar draffyrdd clyfar.
- Cadwch lygad ar eich cyflymder: rhaid i chi gadw at gyfyngiadau cyflymder mewn cylchau coch.
- Teithiau ar amser: gallai cyfyngiadau cyflymder amrywio ar adegau prysur er mwyn i'r traffig barhau i lifo, eich galluogi i symud, a gwneud eich taith yn fwy dibynadwy.
- Bod yn Ddiogel: mae miliynau'n defnyddio ein traffyrdd bob diwrnod – meddyliwch am sut mae eich penderfyniadau'n effeithio ar eraill.
- Dim gwerth mentro: gorfodir cyfyngiadau cyflymder gan yr heddlu ac os byddwch yn eu torri, cewch eich erlyn.
- Parchwch ein gweithwyr ffyrdd: helpwch i achub bywydau – gyrrwch yn ofalus, cadwch at y cyfyngiad cyflymder a ddangosir a chadwch ein gweithwyr ffyrdd yn ddiogel.