Mae cyfyngiadau cyflymder yn y DU’n amrywio yn ôl y math o gerbyd a’r math o yrwyr ar y ffordd.
Mae gyrru dim ond ychydig o filltiroedd dros y cyfyngiad ar yr arwydd wir yn gwneud gwahaniaeth, a gallai olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Wrth yrru ar 35mya rydych chi ddwywaith yn fwy tebygol o ladd cerddwr nac os ydych yn gyrru ar 30mya (RoSPA – Y Gymdeithas Frenhinol dros Atal Damweiniau).
Drwy Sefyll lan dros arafu lawr byddwch yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb.
Cofiwch os oes goleuadau stryd yna mae'n debygol y byddwch mewn cyfyngiad o 30mya.
Pan nad yw'r cyfyngiad cyflymder diofyn lle mae goleuadau stryd yn 30mya, bydd arwyddion i'ch cynghori ynghylch y cyfyngiad perthnasol.
Dylech nodi nad yw’r cyfyngiadau cyflymder hyn yn disodli unrhyw gyfyngiadau sy’n cael eu gosod gan ddyfeisiau cyfyngu cyflymder.
Am ragor o wybodaeth am ddyfeisiau cyfyngu cyflymder gweler “Road Vehicles (Construction and Use) Amendment No.5 Regulations 2005 (Road Traffic Act 1988)”
I wneud cais am y sticer Gwybod eich Cyfyngiad, cliciwch fan hyn.