Mae'r ffigurau hyn yn cymryd yn ganiataol bod y tywydd yn sych a bod teiars da ar gar salŵn teulu cyffredin. Wrth reswm, bydd pellteroedd stopio yn amrywio yn ôl y tywydd, ac efallai y bydd rhai ceir yn perfformio mewn gwahanol ffyrdd.
Fodd bynnag, y pwynt yw waeth pa mor dda y mae'r gyrrwr yn meddwl yw a pha mor dda bynnag yw ei gar, bydd y gwahaniaeth rhwng gyrru ar 30mya a gyrru ychydig filltiroedd dros y cyfyngiad, yn arwain at bellter stopio llawer yn hwy a allai arwain at ganlyniadau trasig.
Beth am ddefnyddio'r Efelychydd Anafiadau i Gerddwyr i weld effaith gwahanol gyflymderau a namau gyrru ar eich ffordd o feddwl a'ch pellter brecio.