Rydych wedi derbyn Hysbysiad am eich bod naill ai'n geidwad cofrestredig ar gerbyd neu wedi cael eich enwebu fel gyrrwr cerbyd yr honnir ei fod wedi cyflawni trosedd. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddweud wrthym os mai chi neu rywun arall oedd yn gyrru, ac os yr ail, darparu eu manylion. Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth hon i ni, rydych yn debygol o gael eich galw i'r Llys, ac os cewch eich euogfarnu, byddwch yn derbyn dirwy o hyd at £1,000 a 6 phwynt cosb.
Pan fyddwch wedi rhoi'r manylion hyn gall y gyrrwr gael cyfle i fynychu cwrs ymwybyddiaeth cyflymder. Os byddwch yn cwblhau cwrs yn llwyddiannus ni fyddwch yn cael dirwy na phwyntiau cosb.
Dewis arall, os na fyddwch yn cael cynnig cwrs neu os byddwch yn dewis peidio â derbyn, yw talu dirwy cosb benodedig a derbyn 3 phwynt ar eich trwydded. Os oeddech yn gyrru ar gyflymder a oedd yn sylweddol dros y cyfyngiad, rydych yn debygol o gael eich galw i'r llys heb gael cynnig cosb benodedig gwrs. Cyn bod unrhyw un o'r opsiynau hyn ar gael, rhaid i chi ddweud wrthym pwy oedd y gyrrwr ar y pryd.
Os byddwch yn mynd i'r llys, bydd yr ynadon yn penderfynu a gyflawnoch chi'r drosedd ac yn penderfynu ar unrhyw ddirwy neu bwyntiau cosb a ddyfernir. Fe'ch atgoffir bod gan y llysoedd yr hawl i gynyddu'r ddirwy a'r pwyntiau cosb a ddyfernir os byddant yn ystyried hynny'n briodol, ac os cewch eich euogfarnu rydych hefyd yn debygol o orfod talu costau erlyn.