Mae fideo o gamera dashfwrdd yn dod o dan gategori CCTV os byddwch yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith.
Os oes gennych gamera dashfwrdd rydych yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith ar gerbyd rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith, yna mae'n debyg y bydd angen i chi gofrestru a thalu ffi diogelu data i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth oni bai eich bod wedi'ch eithrio. Mae hyn am na chaiff y defnydd o'r camera dashfwrdd yn eich cerbyd, neu arno, at ddibenion gwaith, ei ystyried fel defnydd ‘domestig’ ac felly nid yw wedi'i eithrio o gyfreithiau diogelu data.
Os byddwch yn recordio delweddau o unigolion fel gweithgarwch personol neu aelwyd yn unig, heb gysylltiad â gweithgarwch proffesiynol neu fasnachol, mae y tu hwnt i gwmpas Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR).
Os byddwch yn defnyddio'r cerbyd ar gyfer gwaith, bydd angen i chi wneud y canlynol:
Rhoi gwybod i bobl eich bod yn defnyddio camera dashfwrdd drwy osod arwyddion sy'n dweud eich bod yn recordio
Sicrhau nad ydych yn recordio mwy o ddeunydd na'r hyn sydd ei angen arnoch i gyflawni eich diben dros ddefnyddio'r camera dashfwrdd
Sicrhau bod y deunydd rydych yn ei recordio yn ddiogel, drwy ei gadw'n ddiogel a gwneud yn siŵr na all neb ei wylio heb reswm da
Cadw'r deunydd gyhyd ag y bydd ei angen arnoch yn unig, ei ddileu'n rheolaidd a phan na fydd ei angen mwyach
Sicrhau mai dim ond yn ôl y bwriad y caiff y camera dashfwrdd ei ddefnyddio ac na ellir ei gamddefnyddio am resymau eraill.
Mae angen i unrhyw un rydych yn rhannu eich eiddo ag ef, megis aelodau o'r teulu a allai ddefnyddio'r cyfarpar, wybod pa mor bwysig yw peidio â'i gamddefnyddio.
I gael rhagor o gyngor ynghylch eich cyfrifoldebau diogelu data wrth ddefnyddio camera dashfwrdd, gallwch gysylltu ag adran Diogelu Data'r Heddlu, neu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.